#

Y wybodaeth ddiweddaraf am adael yr Undeb Ewropeaidd:
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol | 20 Mawrth 2017
 External Affairs and Additional Legislation Committee | 20 March 2017
 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

1.       Cyflwyniad

Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith y Cynulliad a Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; yr Alban ac Iwerddon. Mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 1 a 15 Mawrth, er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle y mae gwybodaeth ar gael ar adeg y drafftio terfynol.

2.       Datblygiadau yng Nghymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau'r Pwyllgorau sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Pwyllgor wedi cwblhau ymchwiliad ar y Goblygiadau Posibl i Gymru wrth Adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar 27 Mawrth bydd y Pwyllgor yn cynnal cynhadledd drwy'r dydd, sef 'Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Beth nesaf i Gymru?'. Bydd y gynhadledd yn dwyn sefydliadau a chyrff allweddol o bob rhan o Gymru ynghyd i drafod blaenoriaethau ar gyfer Cymru yn nhrafodaethau'r DU ar adael yr UE.

Dyma sesiynau mwyaf diweddar ymchwiliad y Pwyllgor:

§    6 a 13 Mawrth: Parhaodd y Pwyllgor i gymryd tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad i bolisi rhanbarthol.

3 Mawrth: Deddfwrfeydd datganoledig yn cytuno ar feysydd o bryder cyffredin o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd . Cynhaliwyd sgyrsiau ar y cyd yn Senedd yr Alban rhwng aelodau pwyllgorau Ewropeaidd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Llundain. Nododd y gwleidyddion feysydd o bryder cyffredin ar faterion yn cynnwys: pobl yn symud yn rhydd; disodli arian Ewropeaidd, a chysylltiadau rhynglywodraethol. Amlygodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol fod y trafodaethau yn gam pwysig o ran archwilio meysydd o gonsensws a thir cyffredin rhwng y sefydliadau ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/tag/ue/.

Cyhoeddir blogiau'r Gwasanaeth Ymchwil ar Pigion. Y blog diweddaraf ar adael yr Undeb Ewropeaidd yw Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Safbwyntiau Cymru a San Steffan, sy'n rhoi crynodeb o'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor gan Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru a David Jones, y Gweinidog Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd.

Arall

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, ynghyd ag ymchwiliad i Ddyfodol Polisïau Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig yng Nghymru.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau newydd gau ei ymgynghoriad ar Sut beth fydd hawliau dynol yng Nghymru yn dilyn Brexit?

Mae 'goblygiadau gadael yr UE ar y gweithlu meddygol' wedi'i gynnwys yn benodol yn y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad presennol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar recriwtio meddygol. Bydd yr ymchwiliad hwn yn parhau i gasglu tystiolaeth lafar drwy gydol mis Mawrth.

Dadleuon yn y Cyfarfod Llawn

22 Mawrth: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Llywodraeth Cymru

6 Mawrth: Buddsoddiad newydd yr UE gwerth €7 miliwn yn niwydiant pysgodfeydd Cymru ac Iwerddon.

10 Mawrth: Hwb gwerth €6.7 miliwn yr UE i wella dyfroedd ymdrochi yng Nghymru ac Iwerddon.

10 Mawrth: Ymateb Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y goblygiadau i Gymru o adael yr Undeb Ewropeaidd.

13 Mawrth: Cymeradwyaeth yr UE yn datgloi hwb ariannol mawr i Gaernarfon.

Newyddion

6 Mawrth: Undeb Amaethwyr Cymru yn pwysleisio'r angen am Fframwaith Amaethyddol y DU yng Nghynhadledd Plaid Cymru.

6 Mawrth: Undeb Amaethwyr Cymru yn annog Gweinidogion Datganoledig i weithio'n agos i ddatblygu Fframwaith y DU.

7 Mawrth: Datganiad CLA ar adroddiad cyntaf y Pwyllgor Masnach Ryngwladol.

8 Mawrth: Ffermio yn hanfodol i economi'r DU (Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr).

9 Mawrth: Aelodau CGGC yn rhoi rheithfarn ar adael yr Undeb Ewropeaidd - mae tri chwarter yr ymatebwyr yn 'teimlo'n negyddol i raddau helaeth'.

3.       Y diweddaraf o'r UE

Y Cyngor Ewropeaidd 

7 Mawrth: Fframwaith cyllideb yr UE ar gyfer 2014-2020: Y Cyngor yn cytuno i roi mwy o ffocws ar flaenoriaethau newydd.

8 Mawrth: Trafododd Uwchgynhadledd Gymdeithasol Tridarn y Gwanwyn "Dyfodol Ewrop: siartio'r hynt tuag at dwf, cyflogaeth a thegwch." Sylwadau gan yr Arlywydd Donald Tusk yn dilyn yr uwchgynhadledd gymdeithasol tridarn.

9-10 Mawrth: Y Cyngor Ewropeaidd:

Arlywydd Senedd Ewrop - Tajani: "Mae angen i Ewrop newid, nid cael ei gwanhau".

Donald Tusk wedi'i ail-ethol yn arlywydd y Cyngor Ewropeaidd, hyd at 30 Tachwedd 2019.

Sylwadau gan Arlywydd Donald Tusk ar y Cyngor Ewropeaidd, cyfarfod 9 Mawrth 2017.

Trafododd y Cyngor swyddi, twf a chystadleurwydd, diogelwch ac amddiffyn, mewnfudo a'r Balcanau Gorllewinol. Ni chafodd y casgliadau eu mabwysiadu'n ffurfiol.

Sylwadau gan yr Arlywydd Donald Tusk ar ôl y cyfarfod anffurfiol o'r 27 o benaethiaid gwladwriaeth neu lywodraeth

Y Comisiwn Ewropeaidd

1 Mawrth: Cyflwynodd yr Arlywydd Juncker, Arlywydd y Comisiwn ei Bapur Gwyn ar yr UE yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Senedd Ewrop

1 Mawrth: Dyfodol yr UE: Aelodau o Senedd Ewrop yn trafod pum senario a amlinellwyd gan Jean-Claude Juncker.

1 Mawrth: Aelodau o Senedd Ewrop yn ymchwilio i flaenoriaethau ar gyfer y Cyngor Ewropeaidd sydd i ddod.

Rhaid i'r DU ufuddhau i ddeddfau pobl yn symud yn rhydd yn yr UE hyd nes iddi adael yr UE, yn ôl Aelodau o Senedd Ewrop.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Y Senedd yn edrych i mewn i hawliau pobl o Ewrop sy'n byw yn y DU.

2 Mawrth: Arlywydd Senedd Ewrop - Tajani: "Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn her arbennig i Iwerddon a'i phobl".

14 Mawrth: Cyhoeddwyd sancsiynau o ddifrifoldeb digyffelyb gan Antonio Tajani, Arlywydd Senedd Ewrop ddydd Mawrth, yn erbyn yr ASE Pwylaidd Janusz Korwin-Mikke am ei sylwadau annerbyniol yn erbyn menywod yn ystod dadl y Cyfarfod Llawn ar y "bwlch cyflog rhwng y rhywiau" ar 1 Mawrth.

Y wybodaeth ddiweddaraf am lenyddiaeth ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd - Mawrth 2017 - Gwasanaeth Ymchwil Senedd Ewrop

Newyddion Ewropeaidd

Ombwdsmon yn annog tryloywder priodol o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd - Ombwdsmon Ewropeaidd, 2 Mawrth

4.       Datblygiadau yn y DU

16 Mawrth: Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad i Adael).

Llywodraeth y DU

Gwybodaeth am y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd (DExEU - y wybodaeth ddiweddaraf ar 1 Mawrth)

2 Mawrth: Pennod newydd yn y gydberthynas rhwng y DU a Denmarc - erthygl David Davis yn Politiken (Denmarc).

2 Mawrth: Deialog amddiffyn ar adael yr UE.

3 Mawrth: Cynnal ein cysylltiadau agos â Slofacia - erthygl David Davis yn Pravda (Slofacia).

3 Mawrth: Gweinidogion yn y ddeialog ddiweddaraf â chwmnïau gwasanaethau ariannol.

9 Mawrth: Y Cyngor Ewropeaidd - Mawrth 2017: Datganiad i'r wasg y Prif Weinidog.

13 Mawrth: Cyfarfod y Prif Weinidog â Phrif Weinidog Muscat Malta.

14 Mawrth: Datganiad Tŷ'r Cyffredin y Prif Weinidog ar y Cyngor Ewropeaidd.

Fforwm EC-UK - 6 Mawrth

Cynhaliwyd y fforwm EC-UK diweddaraf yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 6 Mawrth 2017. Mae'r fforwm yn dwyn ynghyd Cadeiryddion y pwyllgorau Ewropeaidd perthnasol o bob rhan o'r DU. Mynychodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Darparodd Cadeiryddion o bob cwr o'r DU y newyddion diweddaraf am waith eu pwyllgorau a thrafod meysydd posibl ar gyfer cydweithredu.

Tŷ’r Cyffredin

9 Mawrth: Cafodd cwestiynau llafar ar adael yr Undeb Ewropeaidd eu hateb gan David Davis yr Ysgrifennydd Gwladol, Robin Walker yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, a David Jones y Gweinidog Gwladol.

13 Mawrth: Dadl ohirio ar adael yr UE: Cynhyrchwyr dofednod.

13 Mawrth: Dadl ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad i Adael). Gwrthododd Tŷ'r Cyffredin welliannau'r Arglwyddi.

14 Mawrth: Datganiad y Prif Weinidog ar y Cyngor Ewropeaidd, a chwestiynau.

28 Chwefror: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwydiant niwclear y DU a hyder buddsoddwyr ehangach yn y sector ynni.

28 Chwefror: Archwiliodd y Pwyllgor Iechyd effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ac ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd ar gyfer alltudion Prydeinig a dinasyddion yr UE yn y DU.

1 Mawrth: Clywodd y Pwyllgor Gweithdrefnau dystiolaeth gan gyfreithwyr Academaidd ar bwerau dirprwyedig a'r 'Bil Diddymu Mawr'.

2 Mawrth: Ymwelodd y Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd ag Abertawe i glywed tystiolaeth ar risgiau a chyfleoedd gadael yr Undeb Ewropeaidd i Gymru.

7 Mawrth: Effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar brifysgolion yn y Gogledd a'r Alban wedi'i archwilio ym Mhrifysgol Northumbria gan y Pwyllgor Addysg.

7 Mawrth: Clywodd Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

7 Mawrth: Cynhaliodd y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol ei drydydd gwrandawiad cyhoeddus, a'r olaf, yn archwilio tystiolaeth a thystion ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor i Ddyfodol Cemegau Rheoleiddio ar ôl Refferendwm yr UE.

7 Mawrth: Holodd y Pwyllgor Materion Cartref Gyfarwyddwr Europol ar faterion plismona a diogelwch.

8 Mawrth: Cyfarfu'r Pwyllgor Craffu Ewropeaidd a Phwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a chynhaliwyd sesiwn dystiolaeth ar y cyd gyda George Eustice AS, y Gweinidog Gwladol dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, ar oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Pysgodfeydd ac Amaethyddiaeth.

8 Mawrth: Cynhaliodd y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau sesiwn dystiolaeth ar adael yr Undeb Ewropeaidd a'r farchnad lafur.

10 Mawrth: Sut y mae trafodaethau TTIP wedi llywio trafodaethau masnach rhwng y DU a'r UDA yn y dyfodol? - y Pwyllgor Masnach Ryngwladol yn dechrau cymryd tystiolaeth.

14 Mawrth: Os yw'r DU am barhau i fasnachu gyda'r UE neu gydweithredu ar orfodi cyfraith ar ôl iddi adael, yna mae angen mecanweithiau ar waith ymlaen llaw ar gyfer trosglwyddo data trydydd gwledydd, yn ôl y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd yn ei adroddiad wythnosol ar ddeddfwriaethau newydd yr UE.

14 Mawrth: Trafododd y Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd amcanion negodi'r DU ar gyfer gadael yr UE gyda Sadiq Khan, Maer Llundain, ac ar 15 Mawrth gyda David Davis AS, yr Ysgrifennydd Gwladol ac Ysgrifennydd Parhaol yr adran.

15 Mawrth: Cynhaliodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ei sesiwn dystiolaeth olaf fel rhan o'i ymchwiliad i Fwydo'r Genedl: cyfyngiadau llafur. Holwyd George Eustice AS, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Robert Goodwill AS, y Gweinidog dros Fewnfudo, y Swyddfa Gartref.

1 Mawrth: Cyhoeddodd y Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd ei adroddiad Amcanion trafod y Llywodraeth: hawliau dinasyddion y DU a'r UE. Cytunodd y Pwyllgor yn unfrydol y dylai'r Llywodraeth bellach wneud penderfyniad unochrog i ddiogelu hawliau dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU.

7 Mawrth: Mynediad i farchnad ddarlledu Ewrop ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd - holwyd gan nodyn y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd.

7 Mawrth: Cyhoeddodd y Pwyllgor Masnach Ryngwladol ei adroddiad opsiynau masnach yn y DU y tu hwnt i 2019. Mae'r adroddiad yn trafod ail-ymuno â Chymdeithas Masnach Rydd Ewrop, Cytundeb Masnach Rydd â'r UE, 'dim bargen' - telerau Sefydliad Masnach y Byd gyda'r UE, Cytundebau Masnach Rydd â gweddill y byd a sefydlu safle'r DU yn Sefydliad Masnach y Byd.

10 Mawrth: Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau cychwynnol fel rhan o'r ymchwiliad i'r Goblygiadau i Gymru yn sgil canlyniad refferendwm yr UE. Dywedodd David TC Davies AS, y Cadeirydd, "Byddwn cyn bo hir yn lansio ymchwiliad i'r effaith ar amaethyddiaeth, yn dilyn pryderon a fynegwyd gan fynychwyr - pa gymorth a ddarparwyd gan yr UE a pha gyfleoedd sydd i ddarparu cymorth newydd i ffermwyr Cymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?”.

12 Mawrth: Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Tramor ei adroddiad Trafodaethau ynghylch Erthygl 50: Goblygiadau 'dim bargen', sy'n dweud y byddai'n 'ddiffeithwch dyletswydd' i fethu â chynllunio ar gyfer 'dim bargen'.

Tŷ’r Arglwyddi

Mae Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi a'i chwe is-bwyllgor yn cynnal "cyfres gydgysylltiedig o ymholiadau ar y materion allweddol a fydd yn codi yn y trafodaethau sydd i ddod ar adael yr Undeb Ewropeaidd".

1 Mawrth: Cafodd cyfraniad yr UE a dinasyddion y tu allan i'r UE ei grybwyll mewn cwestiynau am fewnfudo, a atebwyd gan gyn-Aelod Cynulliad, bellach Arglwydd Bourne Aberystwyth.

1 Mawrth: Cyfnod Pwyllgor Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad i Adael). Pleidleisiodd cyfoedion i sicrhau hawliau parhaus dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU.

2 Mawrth: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Gadael yr Undeb Ewropeaidd: yr opsiynau ar gyfer masnach.

7 Mawrth: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad i Adael): Y cyfnod adrodd: Parhad: Trydydd Darlleniad, pasiwyd y Bil.

7 Mawrth: Cwesitynau ynghylch yr Undeb Ewropeaidd: Mudo a hawliau.

13 Mawrth: Cwestiynau ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd: Y Gymanwlad, Masnach a Mudo.

13 Mawrth: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad i Adael) - Ni wnaeth yr Arglwyddi adfer eu gwelliannau a wrthodwyd gan Dŷ'r Cyffredin.

1 Mawrth: Clywodd Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE dystiolaeth gan gyfreithwyr ac academyddion ar Gyfarwyddeb a Rheoliad diogelu data yr UE, Tarian Preifatrwydd yr UE-UDA a Chytundeb Ymbarél rhwng yr UE a'r UDA. Ar 8 Mawrth, rhoddodd Comisiynydd Gwybodaeth y DU dystiolaeth.

1 Mawrth: Holodd Is-bwyllgor yr Amgylchedd ac Ynni yr UE Brif Swyddog Milfeddygol y DU ynghylch goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid.

3 Mawrth: Mae Is-bwyllgor Materion Allanol yr UE ac Is-bwyllgor Marchnad Fewnol yr UE wedi cael ymateb gan yr Arglwydd Bridges o Headley MBE, Is-ysgrifennydd Gwladol, Adran Gadael yr UE, a'r Arglwydd Price CVO, y Gweinidog Gwladol dros Bolisi Masnach, yr Adran Masnach Ryngwladol, i'w hadroddiad, Gadael yr Undeb Ewropeaidd: yr opsiynau ar gyfer masnach, a gyhoeddwyd ar 13 Rhagfyr 2016.

6 Mawrth: Clywodd Pwyllgor Dethol yr UE gan ddau gyfoed arbenigol yr Alban, fel rhan o'i ymchwiliad parhaus i adael yr Undeb Ewropeaidd: datganoli.

8 Mawrth: Clywodd y Pwyllgor Materion Economaidd dystiolaeth am effaith o ran mewnfudo yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd ar wahanol sectorau o'r economi.

8 Mawrth: Holodd Is-bwyllgor yr Amgylchedd ac Ynni yr UE George Eustace AS, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth ynghylch polisi amaethyddiaeth y DU a'r gydberthynas â'r UE yn y dyfodol yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

13 Mawrth: Trafodwyd effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru gan Bwyllgor yr UE, gyda'r Arglwyddi Hain, Hunt a Wigley, wedi'i ddilyn gan Mark Drakeford AC.

14 Mawrth: Clywodd y Pwyllgor Materion Economaidd dystiolaeth gan Robert Good AS, y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo ar gyfer ei ymchwiliad i Adael yr Undeb Ewropeaidd a'r Farchnad Lafur.

1 Mawrth: Cyhoeddodd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd ei adroddiad Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Gibraltar.

4 Mawrth: Cyhoeddodd Is-bwyllgor Materion Ariannol yr UE ei adroddiad Gadael yr Undeb Ewropeaidd a chyllideb yr UE.

6 Mawrth: Cyhoeddodd yr Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE ei adroddiad Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Symud pobl rhwng y DU a'r UE.

14 Mawrth: Mae tollau gweinyddol ac oedi yn bryder difrifol i gwmnïau ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd - cyhoeddodd Is-bwyllgor Materion Allanol yr UE ei adroddiad ar oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i fasnach y DU mewn nwyddau.

5.       Yr Alban

Senedd yr Alban

5 Mawrth: Cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol ei adroddiad Penderfynu ar gydberthynas yr Alban gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae'r Pwyllgor yn galw am ateb pwrpasol ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

15 Mawrth: Dadl ar adroddiadau'r Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Chysylltiadau Allanol: Canlyniad refferendwm yr UE a'i oblygiadau i'r Alban: Tystiolaeth gychwynnol; gadael yr Undeb Ewropeaidd: Beth y mae'r Alban yn ei feddwl: crynodeb o'r dystiolaeth a materion sy'n dod i'r amlwg; Ymfudo'r UE a Hawliau Dinasyddion yr UE; Penderfynu ar gydberthynas yr Alban gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Llywodraeth yr Alban

13 Mawrth: Rhaid i'r Alban gael dewis dros ei dyfodol - Prif Weinidog Cymru yn amlinellu cynllun ar gyfer refferendwm yn wyneb sefyllfa galed ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

14 Mawrth: Rhaid i'r refferendwm 'gael ei wneud yn yr Alban' - y Cabinet yn cytuno mai Senedd yr Alban ddylai benderfynu ar y bleidlais.

6.       Gogledd Iwerddon

Cynulliad Gogledd Iwerddon

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Cynulliad newydd ar 13 Mawrth.

7.       Y cysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon

2 Mawrth: Ymwelodd y Taoiseach â Brwsel fel rhan o raglen o ymgysylltu strategol o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd.

10 Mawrth: Cyfarfu Taoiseach Enda Kenny â Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.

Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Y DU ac Iwerddon(Llyfrgell Tŷ'r Arglwyddi, 13 Mawrth)

8.       Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd

Tŷ’r Cyffredin

§    Geirfa gadael yr Undeb Ewropeaidd

§    Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysiad i Adael): dadansoddiad o welliannau'r Arglwyddi

Arall

§    How to (Br)exit: A guide for decision-makers – Cyfeillion Ewrop

§    Deddfwriaeth Ddirprwyedig a'r Senedd yn Sesiwn 2015-16 - Defnyddio pwerau Harri'r VIII - Cymdeithas Hansard

§    The great British trade off – Th UK in a Changing Europe

§    Busnesau'r UDA yn rhybuddio'r DU ynghylch colli mynediad i farchnad sengl yr UE – Guardian, 8 Mawrth